Domingo Faustino Sarmiento
Gwleidydd, llenor, ac addysgwr o'r Ariannin oedd Domingo Faustino Sarmiento (15 Chwefror 1811 – 11 Medi 1888) a wasanaethodd yn Arlywydd yr Ariannin o 1868 i 1874. Mae'n nodedig yn llên yr Ariannin, ac America Ladin yn gyffredinol, am ei ysgrif hir ''Facundo'' (1845).Ganwyd yn San Juan yng ngorllewin yr Ariannin. Trwy hunanaddysg daeth yn ddyn ifanc deallus a gwleidyddol. Treuliodd rhyw deng mlynedd yn alltud yn Tsile, ac yno yr oedd yn weithgar yn addysg gyhoeddus y wlad. Daeth yn adnabyddus hefyd fel newyddiadurwr ac ysgrifwr gwleidyddol, a theithiodd i Ewrop a'r Unol Daleithiau. Dychwelodd i'r Ariannin i gynorthwyo yn y gwrthryfel yn erbyn yr unben Juan Manuel de Rosas. Daeth yn wleidydd amlwg yn ei famwlad, ac etholwyd yn arlywydd yn 1868. Aeth ati i ddiwygio'r gyfundrefn addysg yn ystod ei arlywyddiaeth. Darparwyd gan Wikipedia